E-Mail Icon

Datblygu a Chymorth

Mae holl wasanaethau datblygu GGMT ar gael am ddim i aelodau.  Os ydych chi'n aelod o grŵp gwirfoddol, cymunedol neu elusennol sy'n bodoli eisoes, neu'ch bod am sefydlu grŵp newydd, ydych chi'n gwybod i ble y gallwch fynd i gael help, cymorth a chyngor?

Fel rhan o'’r gwasanaeth, gall GGMT eich cynorthwyo i newid statws cyfreithiol eich sefydliad, datblygu cyfansoddiad, cofrestru fel elusen neu gwmni, datblygu polisïau, gweithdrefnau ariannol, cyfle cyfartal, amddiffyn plant, marchnata, cyllid, TG a hyfforddiant.

Cymorth a Chyngor Cyllid

Mae cyllid yn hanfodol i unrhyw grŵp gwirfoddol – mae GGMT yn cynnig gwasanaeth cyngor cynhwysfawr ar gyllid i’w aelodau.  Gall aelodau fanteisio ar wybodaeth, cymorth a chyngor ar ystod eang o faterion cyllid; unrhyw beth o ffurflenni cais, monitro a gwerthuso i hyfforddiant perthnasol.

Gall GGMT gynorthwyo’ch sefydliad â strategaethau cyllido a llenwi ffurflenni cais i sicrhau parhad y Sector Gwirfoddol ym Merthyr Tudful.

Cefnogaeth sydd Ar Gael i Aelodau

  • Nodi cyllidwyr posibl
  • Chwilio am gyllid perthnasol
  • Cymorth wrth wneud ceisiadau am gyllid
  • Monitro a gwerthuso
  • Datblygu strategaethau cyllido
  • Hyfforddiant 
  • Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar ddod o hyd i gyllid Ewropeaidd, cyllid Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, dalenni gwybodaeth am gyllid, diweddariadau cyllid misol, Ymddiriedolaethau Elusennol, Diwrnodau Gwybodaeth am Gyllid ac Ymgyrchoedd Cyhoeddus Cyffredinol.
  • Mynediad at gronfeydd data cyllid; Grantfinder, Funderfinder a Profunding

Cymorth a Chyngor TG a Rhyngrwyd

Gall GGMT gynorthwyo’ch sefydliad trwy gydol yr holl broses o fynd ar-lein; o’ch helpu i benderfynu pa galedwedd, meddalwedd a gwasanaethau y mae eu hangen arnoch, i ariannu, prynu a sefydlu.

Hyfforddiant

Nod GGMT yw cynnig cyfleoedd i sefydliadau ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r deallusrwydd y mae arnynt eu hangen i weithredu’n effeithiol.  Gall hyn amrywio o gyrsiau hyfforddiant a drefnwyd yn ffurfiol i sesiynau un-i-un anffurfiol. Mae GGMT yn ceisio gweithio gyda darparwyr hyfforddiant lleol i ddatblygu cyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion y sector gwirfoddol lleol.

Gall staff Datblygu GGMT gynnig hyfforddiant anffurfiol i’ch grŵp neu bwyllgor rheoli mewn meysydd cyffredinol, fel sgiliau pwyllgor, cofrestru fel elusen, neu adolygu’ch statws cyfreithiol.

Os oes ar eich sefydliad angen hyfforddiant penodol, rhowch alwad i ni i weld a allwn ni helpu.