Rhwydweithiau
Mae GGMT wedi sefydlu nifer o Fforymau fel rhan o’i wasanaeth i aelodau. Mae pob fforwm yn cynnig buddiant cyffredin i aelodau a’r cyfle i gwrdd yn rheolaidd ac i ymateb ar y cyd i faterion. Sefydlwyd rhai fforymau fel grwpiau cyfeirio uniongyrchol at bartneriaethau arwyddocaol yn y Fwrdeistref Sirol, er enghraifft, mae Fforwm Sefydliadau Gwirfoddol Plant a Phobl Ifanc (CYPVOF) yn ethol aelodau i sefyll ar Bartneriaeth y Plant, y Bartneriaeth Pobl Ifanc, a Fframwaith Cynllun Plant a Phobl Ifanc (C&YPP) er Partneriaeth.
Mae croeso i holl aelodau GGMT ymuno â’r fforymau; os gall y sector ddangos ymagwedd fwy gydlynus, gellir ymateb yn well i faterion.
Fforwm Sefydliadau Gwirfoddol Plant a Phobl Ifanc (CYPVOF)
Mae’r fforwm hwn yn rhoi’r cyfle i rwydweithio, integreiddio, a chael cynrychiolaeth ar bartneriaethau ac is-grwpiau allweddol yn yr arena Plant a Phobl Ifanc.
Fforwm Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae gan y fforwm hwn gysylltiad uniongyrchol at ddatblygu’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, mae’n gyfle i integreiddio a chael cynrychiolaeth ar bartneriaethau allweddol yn yr arena Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (HSC&WB) ym Merthyr Tudful.
Fforwm Sector Gwirfoddol
Mae’r fforwm hwn yn ymdrin â materion perthnasol y mae’n rhaid i’r sector cyfan ymateb iddynt. Y materion diweddaraf yw’r Strategaeth Gymunedol a datblygu’r compact â’r Awdurdod Lleol.
Fforwm y Celfyddydau (Misol)
Ffocws y fforwm yw codi proffil y celfyddydau a datblygu a sefydlu ymagwedd gydweithredol at Raglenni’r Celfyddydau ledled y Fwrdeistref Sirol. Sefydlwyd y fforwm yn grŵp cyfeirio uniongyrchol ar gyfer datblygiadau’r Celfyddydau a’r Cyfryngau ar gyfer Campws Dysgu Gydol Oes CCET Merthyr Tudful, ac mae ganddo gysylltiadau â Phrosiect Gates – presenoldeb y Brifysgol ym Merthyr.
Fforwm Cludiant Cymunedol
Mae’r fforwm hwn yn gyfle i ddarparwyr cludiant arbenigol gyfarfod yn rheolaidd - i gael cysylltiad â Chynllun Grantiau’r Awdurdod Lleol a Chludiant Cymunedol Cymru. Ddatblygu system gludiant gymunedol i fodloni anghenion cymunedau Merthyr Tudful.
Rhwydwaith Strategaeth Gofalwyr
Mae’r Rhwydwaith Gofalwyr yn cwrdd bob yn ail fis; mae’r rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Sector Wirfoddol, Awdurdod Lleol a Gofalwyr.
Mae’r Rhwydwaith yn nodi materion y mae’n rhaid i ofalwyr ddelio â nhw fel rhan o’u rôl a chyfeirio atynt yn y strategaeth. Mae’n cynnwys y materion mewn cynlluniau gwaith y mae pob partner yn cyfrannu atynt, ac yn ceisio cynnig gwasanaethau effeithiol.
Amcan y Strategaeth yw:
- darparu gwell gwasanaethau i ofalwyr
- sicrhau bod pob gofalwr o bob oedran yn ymwybodol o’u hawliau
- sicrhau bod gofalwyr ar frig y prif agenda
- cadw i godi proffil y gwaith mae gofalwyr yn ei wneud
Mae’r Strategaeth gyfredol yn dod i ben ym mis Ebrill 2008 ac mae’r Rhwydwaith yn blaenoriaethu Gweithredoedd Gofalwyr Merthyr Tudful ar hyn o bryd.
