Rhowch gyfraniad i VAMT
Yn yr un modd â llawer o elusennau eraill, mae GGMT yn dibynnu ar gyllid gan ffynonellau a chyfraniadau allanol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi GGMT a’r gwaith a wneir ganddo yn y Sector Gwirfoddol ym Merthyr, ceir isod nifer o ffyrdd y gallwch ddangos eich cefnogaeth:
Cyfrannu Cyflogres
Beth yw Cyfrannu Cyflogres?
Mae Cyfrannu Cyflogres yn caniatau i weithwyr unrhyw fusnes i gyfrannu at unrhyw elusen yn y DU yn uniongyrchol o’u cyflog gros (cyn didynnu treth), gan roi gostyngiad treth ar y cyfraniadau hynny ar unwaith. Mae hyn yn golygu bod cyfrannu £10 y mis yn costio £7.80 yn unig i weithwyr sy’n talu treth ar y gyfradd safonol (£6 i drethdalwyr ar y gyfradd uwch) a bydd yn werth cymaint ag £20 i’r elusen.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y galwch roi i GGMT drwy gyfrannu cyflogres, cysylltwch â Swyddog Cyllid GGMT ar 01685 353900.
Cymynroddion
Mae cymynrodd o Ewyllys cyfrannydd yn un o’r ffyrdd mwy traddodiadol o gyfrannu at elusennau, ac mae’n bwysig iawn i lawer o elusennau, gan gynnwys GGMT.
Cyfraniadau Unigol
Os hoffech wneud cyfraniad unigol i GGMT a fydd yn mynd tuag at gynnal ein gweithgareddau a chynllunio i’r dyfodol, anfonwch siec neu archeb bost sy’n daladwy i “Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful” at,
Ian Davy
Cyfarwyddwr
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
89-90 Stryd Fawr
Merthyr Tudful
CF47 8UH
Gwedy
eBay dros gardod
