Gwobrau Gwirfoddoli 2010
MAE’R CYFNOD CYFLWYNO ENWEBIADAU NAWR WEDI DOD I BEN - OS OES GENNYCH CHI UNRHYW GWESTIYNAU, CYSYLLTWCH Â KAREN FOLEY AR 01685 353913
GWOBRWYON GWIRFODDOLI GWEITHREDU GWIRFODDOL - FFURFLENNI ENWEBU

Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful unwaith eto yn trefnu dathliad blynyddol o wirfoddoli yn
y gymuned. Eleni byddwn ond yn cynnal un digwyddiad, sef Gwobrwyon Cyraeddiadau Gwych,
yn anffodus ni fydd y Seremoni Dystysgrif yn cael ei chynnal, gofynnwn i fudiadau i gysylltu gyda’r Ganolfan Wirfoddoli os hoffent dystysgrifau ar gyfer eu gwirfoddolwyr.
Bydd y Gwobrwyon Cyraeddiadau Gwirfoddol Gwych yn cael eu cynnal yng Nghlwb Cymdeithasol Penydarren ar ddydd Iau, 24ain o Fehefin drwy wahoddiad yn unig, gyda
bwffe ac adloniant yn cael eu darparu. Bydd tocynnau yn £5 y pen.
Fe’ch gwahoddir i gynnig enwebiadau ar gyfer y Gwobrwyon Gweithredu Gwirfoddol Gwych
drwy gwblhau'r ffurflen enwebu atotedig. Bydd un wobr yn cael ei chyflwyno ar gyfer pob un o’r 10 categori. Mae gyda ni wobr newydd eleni sef ‘Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg drwy Wirfoddoli’, darllenwch y nodiadau canllaw os gwelwch yn dda am fwy o wybodaeth.
Nodwch os gwelwch yn dda mai dydd Gwener, 7fed o Fai 2010 yw’r dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, yna cysylltwch os gwelwch yn dda â Karen Foley ar 01685 353913 neu e-bostiwch karen.foley@vamt.net.
Diolch i chi am eich cefnogaeth.
Yr eiddoch yn gywir
Karen Foley
SWYDDOG GWIRFODDOLI
Cliciwch ar y dolenni i lawrlwytho’r ffurflenni a’r wybodaeth berthnasol.
Gwobrwyon Gweithredu Gwirfoddol 2010
Gwobrwyon Gwirfoddoli Gweithredu Gwirfoddol 2010
- Cliciwch yma am Gwobrau Gwirfoddoli 2009
I weld gweddill y lluniau o’r Noson Dystysgrif Gwirfoddolwyr, cliciwch isod i weld
