Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn fenter ar hyd y DU gyfan sydd wedi ei lunio i hyrwyddo ac adnabod gwirfoddoli ymysg pobl ifanc rhwng 16-24 oed.
Amcanion Gwirfoddolwyr y Mileniwm
- Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli heriol a diddorol i bob person ifanc.
- Galluogi pobl ifanc i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, ac i ddatblygu’n bersonol.
- Cynyddu cydnabyddiaeth o wirfoddoli ymysg pobl ifanc yn y gymuned.
- Gosod safon ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru.
- Effaith cadarnhaol o fewn cymunedau lleol.
- Annog perchnogaeth y rhaglen i bobl ifanc.
Beth sydd angen ei wneud?
- Rydych yn gwneud ymrwymiad i wirfoddoli am 200 awr.
- Gallwch ddewis gweithio mewn sefydliadau neu grwpiau gwirfoddol, neu lunio a rhedeg prosiect eich hun gyda’ch ffrindiau.
- Gallwch wneud unrhyw beth fydd hyn helpu eich hun, eich grŵp a’r gymuned er enghraifft:
- Gweithio ar brosiect amgylcheddol
- Prosiect Celfyddydol
- Hyfforddi gweithgaredd chwaraeon
- Trefnu drama ar gyfer y gymuned
- Helpu i wrthsefyll camdriniaeth cyffuriau ac alcohol
- Ymgyrchu am achos da
- Sefydlu gweithgaredd ieuenctid newydd yn eich cymuned
- Gweithio ar brosiect amgylcheddol
Beth fyddwch chi’n ei elwa o hyn?
Pan fyddwch wedi gwirfoddoli am 100 awr byddwch yn derbyn tystysgrif i adnabod eich cyfraniad. Os byddwch yn gwirfoddoli am 200 awr byddwch yn derbyn Gwobr Rhagoriaeth gan Brif Weinidog, Llywodraeth Cynulliad Cymru, i gydnabod eich gwaith caled a’ch ymrwymiad.
Mae’n ffordd hwylus i gyfarfod pobl newydd, datblygu sgiliau personol a chael profiad gwaith gwerthfawr.
Bydd eich llwyddiannau yn cael eu hadnabod gan gyflogwyr, colegau a chymunedau lleol. Gall felly eich helpu i fynd i goleg neu gael swydd.
Os oes gennych ddiddordeb ymuno â chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm a rhwng 16 a 24 oed, rhowch ganiad i staff y Ganolfan Gwirfoddoli am ragor o wybodaeth.
