Gwirfoddoli gydag Oedolyn Bregus a Gwneud Gwahaniaeth!
Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Integreiddio Oedolyn ar Brosiect Gwirfoddoli new
ydd. Cafodd y Prosiect Gwirfoddoli Evolve ei gychwyn yn 2005 ac mae’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr sy’n darparu cefnogaeth gymdeithasol i oedolion bregus.
Gellir darparu’r gefnogaeth yma un ai ar sail un wrth un drwy ymgyfeillio unigolyn yn y gymuned, neu drwy gefnogi cleientiaid gydag anableddau dysgu a chorfforol yng Nghanolfan Dydd Sandbrook i gymryd rhan maen gweithgareddau. Mae’r Gwasanaethau Integreiddio Oedolyn yn adnabod y cleient ac mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio’n agos gyda’r cleient drwy ymgyfeillio neu fentora, a darparu cefnogaeth trwy weithgareddau hamdden a chymdeithasol, neu drwy ymweliadau cartref ar gyfer cleientiaid sy’n teimlo’n unig oherwydd eu salwch. Mae’r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a GGMT gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.
Elaine James yw’r Cydlynydd Prosiect.
Os oes modd i chi gynnig ychydig o oriau’r wythnos a bod diddordeb gennych wirfoddoli ar gyfer y prosiect, neu os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â Elaine James yn GGMT ar 01685 353954 neu drwy yrru ebost at Elaine James
