Cymunedau’n Gyntaf Trefechan
Cymunedau’n Gyntaf sef rhaglen flaenllaw Llywodraeth y Cynulliad yw gwella amodau byw a rhagolygon unigolion sy’n byw mewn cy
munedau dan anfantais yng Nghymru. Sefydlwyd y rhaglen hir dymor i redeg am o leiaf 10 mlynedd er mwyn galluogi pobl leol i benderfynu ar yr hyn sydd ei angen, a’u helpu i wneud hynny ddigwydd.

Bwriad Cymunedau’n Gyntaf yw cael pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella eu hardaloedd, i gael cyllid a chefnogaeth o wasanaethau amrywiol, i annog ffyrdd newydd o ymdrin â phroblemau, ac i gael pawb i weithio â’i gilydd i wneud eu cymunedau yn lefydd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
Ym mhob ardal Cymunedau’n Gyntaf sefydlir partneriaeth sy’n cymryd y prif gyfrifoldeb o redeg y rhaglen o fewn eu hardal. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o’r gymuned, sector statudol a sectorau gwirfoddol a busnes.

Yn Nhrefechan mae partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf ynghyd â GGMT (sef y corff sy’n derbyn grantiau) yn cyflogi Cydlynydd, Swyddog Datblygu a Swyddog Datblygu Cefnogol i weithredu ar ran y bartneriaeth, a gyda’i gilydd maent yn trafod â’r gymuned ynglŷn â materion, problemau a chyfleoedd sy’n bodoli yn Nhrefechan.
O ganlyniad i’r broses ymgynghori, datblygwyd Cynllun Gweithredu Cymunedol i ymdrin â materion a phroblemau sy’n bodoli yn ôl y gymuned ei hun, a defnyddio cyfleoedd yn Nhrefechan o dan y themau isod
- Swyddi a Busnes,
- Addysg a Hyfforddiant,
- Iechyd a Lles,
- Amgylchedd,
- Disymudedd Economaidd,
- Diogelwch Troseddol a Chymunedol,
- Tlodi Plant
- Cymunedau Gweithredol.
Defnyddir y cynllun hwn i geisio am gyllid, i ymuno gwasanaethau lleol a gosod rhaglenni gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Am ragor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am waith Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Trefechan, ewch ar ein blog. http://communitiesfirsttrefechan.blogspot.com
