VAMT E-Mail

Hyfforddiant

Cyrsiau hyfforddiant Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful 2010-2011


Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn rhan o rwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol sydd wedi ymrwymo i ddarparu ystod llawn o gyrsiau i ddiwallu anghenion y sector gwirfoddol yng Nghymru fel rhan o fframwaith hyfforddiant cenedlaethol.

Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn gweithio gydag Interlink, sydd wedi ei leoli ym Mhontypridd, Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd sydd wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd, Canolfan Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro sydd wedi ei leoli yn Barri a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu mynediad at hyfforddiant nad oes gan Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yr adnoddau i’w cyflwyno wrth ei hun.

Mae manylion y cyrsiau sydd yn cael eu cynnig gan y Cynghorau Gweithredu Gwirfoddol sy’n bartneriaid i ni ar gael nawr (gweler y linciau isod), ac os ydych yn medru teithio, bydden yn eich annog i’w mynychu.

Cefnogir y cyrsiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r gost ddyddiol yn £20 neu lai ac mae’n cynnwys yr holl ddeunyddiau. Bydd yr holl gyrsiau a gynigir gan Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (ac wedi eu rhestri isod) yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Gweithredu Gwirfoddol. Bydd taflenni gwybodaeth ar gyfer pob cwrs hyfforddiant yn cael eu postio, ond gallwch hefyd archebu drwy e-bostio training@vamt.net
Am amodau a thermau Hyfforddiant Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful cliciwch yma.


Cyrsiau Hyfforddiant Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful 2010- 2011

18 Mai 2010- Ffitrwydd ariannu

3Mehefin 2010 –Cofnodion, Cyfarfodydd ac Agendâu

8 Mehefin 2010 – Cyflwyniad i Safleoedd Gwe

23 Mehefin 2010  Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

 

Hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig yn y Rhanbarth

Hyfforddiant a Digwyddiadau Canolfan Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro

Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr

Interlink

 

Am yr ystod lawn o hyfforddiant sydd ar gael ar draws Cymru ymwelwch â gwefan Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru

English Version

Welsh Version