Cymunedau’n Gyntaf Tref a Pharc
Mae gan Gymunedau’n Gyntaf, sef rhaglen flaenllaw Llywodraeth y Cynulliad, y nod hir dymor o wella amodau byw a rhagolygon unigolion sy’n byw mewn
cymunedau dan anfantais yng Nghymru. Mae’n galluogi pobl leol benderfynu eu hunain beth maent eu heisiau, ac yna bydd cefnogaeth ar gael i wneud y newidiadau yma o fewn y gymuned leol.
Yn dilyn ailddosbarthu Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn 2005, mae mwy o ardaloedd yng Nghymru wedi eu hychwanegu ar y Rhaglen, a’r diweddaraf yw Tref a Pharc, Merthyr Tudful.
Mae’r prosiect Cymunedau'n Gyntaf Tref a Pharc wedi bod yn weithredol ers Mehefin 2007 ac wedi ei leoli yn 88 Stryd Fawr, Merthyr Tudful.
LÔN HONG KONG

Cyfrannwyd cyfanswm o £6391 i Cymunedau’n Gyntaf Tref a Pharc drwy Gronfa Adfywio Gynaliadwy Blaenau’r Cymoedd. Rhoddwyd sialens i artistiaid brwdfrydig lleol ym Merthyr i greu dyluniadau sy’n darlunio elfennau cadarnhaol o dan y thema “Ein Merthyr”. Cynhaliwyd y gweithdai yn Siop Wybodaeth a Phrosiect Porth Morgannwg. Cyflwynodd disgyblion Ysgol Uwchradd Cyfarthfa nifer o ddyluniadau; gwaith amrywiol wedi ei gynhyrchu gan bawb oedd ynghlwm â’r prosiect. Cafodd y dyluniadau a gafodd eu dewis eu gosod ar fyrddau mawr ac erbyn hyn maent wedi eu harddangos ar hyd Lôn Hong Kong. Ni fyddai’r prosiect yma wedi bod yn llwyddiannus oni bai am waith caled ac ymrwymiad y
“Prosiect Celf Symudol” a gwirfoddolwyr lleol, yn ogystal â chefnogaeth ein partneriaid Porth Morgannwg, y Siop Wybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r Gwasanaeth Prawf. Cafodd y byrddau mawr eu dadorchuddio gan y Cyng. Jeff Edwards, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
IS-GRŴP AMGYLCHEDDOL
Mae Cymunedau’n Gyntaf Tref a Pharc yn ceisio datblygu Is-grŵp Amgylcheddol. Unwaith caiff y grŵp ei sefydlu bydd yn gweithio’n lleol ar brosiectau amgylcheddol fel creu gerddi cymunedol, tirlunio ardaloedd sydd wedi gordyfu a phrosiectau cyffredinol a fydd yn gwneud yr amgylchedd yn fwy deniadol a chroesawgar.
Bydd bod ynghlwm â’r prosiect yn rhoi cyfleoedd i unigolion gymdeithasu gydag aelodau eraill yn y gymuned sydd â diddordebau tebyg. Bydd Cymunedau’n Gyntaf Tref a Pharc yn cefnogi’r grŵp i’w galluogi i geisio am gyllid ar gyfer prosiectau posib.


Bydd y grŵp yn bwriadu cydweithio’n agos â mentrau a sefydliadau lleol fel Trefi Taclus, Groundwork Merthyr a RCT, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i sicrhau bod y prosiectau a weithredir yn ddiogel o dan eu harweiniad hwy, gan ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd.
DIDDORDEB...?
Cysylltwch â Chymunedau’n Gyntaf ar 01685 353944 neu dewch i’r swyddfa.
PRAMIAU YN Y PARC
Prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd yw “Pramiau yn y Parc”, sy’n daith gerdded wedi ei drefnu ar gyfer rhieni a gofalwyr plant. Mae’n gyfle iddynt gymdeithasu gydag eraill sydd â diddordebau neu faterion tebyg ac i beidio â theimlo mor unig, gan hyrwyddo bywyd iach ar yr un pryd.
Cafodd y prosiect ei drefnu gan Gymunedau’n Gyntaf ac mae’n derbyn cefnogaeth gan Kay Maybank sef Cydlynydd Dewch i Gerdded Cymru a Chychwyn Cadarn. Er mwyn sicrhau diogelwch pob cyfranogwr, gwnaethpwyd asesiad risg ar y llwybr sy’n cael ei ddefnyddio. Roedd ein taith gyntaf ar ddydd Gwener, Mai 15fed 2009 ym Mharc Cyfarthfa. Ond o ganlyniad i’r tywydd gwael roedd y niferoedd yn isel ond roedd pawb a fynychodd wedi mwynhau gan ddweud eu bod am fynychu’r digwyddiad nesaf. Trefnir dyddiad ar gyfer y daith nesaf unwaith penderfynir ar ddyddiad i yrru’r cyhoeddusrwydd allan.
Cylchlythyrau
| Rhifyn 1 | Saesneg | |
| Rhifyn 2 | Saesneg | |
| Rhifyn 3 | Cymraeg | Saesneg |
| Rhifyn 4 | Cymraeg | Saesneg |
| Rhifyn 5 | Cymraeg | Saesneg |
Cofnodion Llywio Partneriaeth
| 13 Rhag 07 | 10 Ion 08 | 07 Chwef 08 | 06 Mawrth 08 |
| 10 Ebr 08 | 22 Mai 08 | 26 Mehe 08 | 24 Gorff 08 |
| 14 Awst 08 | 25 Medi 08 | 23 Hyd 08 | 27 Gorff 08 |
| 22 Ion 09 | 25 Chwef 09 | 26 Mawrth 09 | 30 Ebrill 09 |
