VAMT E-Mail

Cefnogi Grwpiau

Mae holl wasanaethau Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful am ddim i aelodau. Os ydych yn aelod o grŵp gwirfoddol, cymunedol neu elusennol yn barod neu’n ystyried sefydlu grŵp newydd, ydych chi’n gwybod lle i fynd am gymorth, cefnogaeth a chyngor?

Fel rhan o’r gwasanaeth, gall GGMT eich cynorthwyo i newid statws cyfreithiol eich sefydliad, datblygu cyfansoddiad, cofrestru fel elusen neu gwmni, datblygu polisiau, gweithdrefnau cyllidol, cyfleoedd cyfartal, diogelu plant, cyllid, TGCh a hyfforddiant.

Cefnogaeth a Chyngor Cyllido

Mae cyllid yn hanfodol i unrhyw grŵp gwirfoddol – mae GGMT yn cynnig gwasanaeth cynghori cynhwysfawr ar gyllido. Gall aelodau fanteisio ar wybodaeth, cefnogaeth a chyngor ar amryw o faterion cyllidol; o ffurflenni ymgeisio, monitro a gwerthuso i hyfforddiant perthnasol.

Gall GGMT gynorthwyo eich sefydliad gyda strategaeth gyllidol a chwblhau ffurflenni ymgeisio i sicrhau parhad y Sector Wirfoddol ym Merthyr Tudful.

Taflenni Gwybodaeth ar Gyllido yma....

Cefnogaeth sydd ar gael i Aelodau

  • Adnabod cronfeydd ariannu dichonadwy
  • Chwilio am gyllid perthnasol
  • Cymorth i wneud ceisiadau am gyllid
  • Monitro a gwerthuso
  • Datblygu strategaethau cyllido
  • Hyfforddiant
  • Gwybodaeth ar gael hefyd ar chwilio am gyllid Ewropeaidd, cyllid Llywodraeth Ganolog a Lleol, taflenni ffeithiau ar gyllid, diweddariadau misol ar gyllid, Ymddiriedolaethau Elusennol, Diwrnodau Gwybodaeth ar Gyllid ac Apêl Cyffredinol Cyhoeddus.

Hyfforddiant

Nod GGMT yw cynnig cyfleoedd i sefydliadau ennill y gwybodaeth a sgiliau sydd ei angen i reoli’n llwyddiannus. Gall hyn amrywio o gyrsiau hyfforddi ffurfiol i sesiynau un ac un anffurfiol. Mae GGMT yn ceisio gweithio gyda darparwyr hyfforddiant lleol i ddatblygu cyrsiau wedi eu llunio’n arbennig i anghenion y sector wirfoddol leol.

Gall Staff Datblygu GGMT ddarparu hyfforddiant anffurfiol mewn meysydd cyffredinol i’ch grŵp neu bwyllgor rheoli megis sgiliau pwyllgor, cofrestru fel elusen, neu adolygu eich statws cyfreithiol.

Os oes gan eich sefydliad anghenion hyfforddi penodol, rhowch ganiad i weld os gallwn eich helpu, neu cymerwch olwg ar ein Tudalen Hyfforddi.