Prosiect Comisiynu Polisi
Beth yw e?
I ddatblygu cod arferion ariannu a chomisiynu / cynllunio gwasanaeth, cod caffael a chanllawiau ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector trydyddol ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Bydd y cod arferion a’r canllawiau’n arwain at:
- Gwell trefniadau comisiynu a chaffael
- Mwy o wasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y cyhoedd; yn cael eu darparu ar sail “pwy sy’n gwneud beth orau.” Bydd hyn yn rhoi rhagor o ddewis i bobl.
- Gwell gwybodaeth a chefnogaeth i swyddogion y sector cyhoeddus a mudiadau’r sector trydyddol ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Arwain Polisi
Mae polisi cenedlaethol yn amlygu’n gyson y rhan allweddol sy gan y sector trydyddol yng Nghymru mewn cynllunio a darparu gwasanaethau. Er enghraifft, dyma ddyfyniad o ddogfen Cynllun Oes (2006) y Cynulliad Cenedlaethol, y ddogfen sy’n crisialu eu gweledigaeth o drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
“Ni wireddir y weledigaeth oni fydd pawb sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, gan gynnwys staff gofal cymdeithasol, defnyddwyr gwasanaethau, eu cynrychiolwyr a’u gofalwyr ynghyd â darparwyr annibynnol a rhai o’r sector gwirfoddol wedi ymrwymo iddi ac yn chwarae rhan lawn yn y newidiadau.”
Fodd bynnag, mae comisiynu’n broses gymhleth ac mae’n rhaid i bawb sydd ynghlwm â’r broses weithio’n galed i wneud yn siŵr fod y gwaith ar wahanol gamau’r prosiect yn eglur, yn gyson ac yn cydio yn ei gilydd. Dros ddwy flynedd y prosiect hwn dyma beth y gobeithiwn ei gyflawni ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynnon Taf.
Sut allwch chi fod o gymorth - Ffeithiau Ychwanegu Gwerth
Mae comisiynu’n rhoi her i bob sector. Un bwysig i’r sector trydyddol yw disgrifio a mesur y gwerth a’r asbri y gall cyfraniadau gan sefydliadau lleol eu gwneud i wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae gwybod mwy am y gwerth ychwanegol mae’ch sefydliad yn ei roi i’r ardal yn ddefnyddiol ar gyfer y prosiect hwn ac ar gyfer eich sefydliad eich hun.
Rhowch gynnig ar gwblhau’r holiadur gwerth ychwanegol deg cwestiwn. Gellwch ei lawrlwytho yma, a’i ddychwelyd ataf drwy e-bostio Margaret Mclaughlin Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01685 353920
Atodiadau Perthnasol
Crynodeb gan y grŵp llywio a gyfarfu ym mis Rhagfyr 2009
Margaret Mclaughlin – Swyddog Comisiynu Prosiect Datblygu Polisi
