Gwybodaeth Gofalwyr
Cyfeiriadur Gwybodaeth Age Concern Morgannwg
Mae’r cyfeiriadur yma gyda’r holl wybodaeth ar wasanaethau yn eich Bwrdeistref, o’r Ganolfan Gynghori i Ofalwyr.
Llyfryn Gwybodaeth Gofalwyr
Popeth rydych angen ei wybod am hawliau gofalwyr.
Cylchlythyrau Gofalwyr
2009 |
|
|
2008 |
||
2007 |
Arolwg Wythnos Gofalwyr 2009
Gwahoddir gofalwyr i gymryd rhan yn arolwg Wythnos Gofalwyr 2009, gellir ei gwblhau ar y cyfeiriad canlynol www.carersweeksurvey.org.uk
Bydd yr arolwg yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol:
* Ydi cyfraniad gofalwyr yn cael ei gydnabod gan y gymdeithas?
* Oes angen well mynediad i gymorth a gwasanaethau i ofalwyr?
* A fyddai cynyddu cydnabyddiaeth gan bobl broffesiynol, ac eraill sy’n effeithio ar fywydau gofalwyr o ddydd i ddydd, yn gwneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr?
Bydd yr arolwg yn dod â materion sydd fwyaf pwysig i’r gofalwyr i’r wyneb, ac yn rhoi cyfle i ofalwyr rannu eu profiad ar ofalu, straeon personol ynglŷn â straen a phwysau gwaith; y cadarnhaol a’r negyddol.
Bydd straeon a phrofiadau’r gofalwyr yn creu darlun cyffredinol a chyfres o ganlyniadau, a fydd yn ganolog i Wythnos Gofalwyr 2009. Cedwir yr holl wybodaeth a ddarperir gan y gofalwyr yn breifat a chyfrinachol.
Ymddiriedolaeth ‘Saga Respite for Carers Trust’
Mae ymddiriedolaeth Saga Respite for Carers Trust yn gyfle i ofalwyr dderbyn gwyliau haeddiannol.
Rhaid i’r gofalwr fod yn 50 oed neu hŷn,
Fod wedi bod yn gofalu am rywun am flwyddyn neu fwy,
Heb gymryd gwyliau sylweddol oddi wrth eu dyletswydd gofalu o fewn y flwyddyn ddiwethaf,
Ddim yn ofalwr sy’n derbyn cyflog Credaf fod y mwyafrif o’r gofalwyr sydd mewn cysylltiad â ni yn cwrdd â’r meini prawf yma.
Mae modd i ofalwyr enwebu eu hunain neu gall rhywun arall wneud hynny ar eu rhan.
Gellir derbyn ffurflenni enwebu drwy’r post, gan yrru amlen gyda stamp a chyfeiriad arni at:
Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, Saga Respite for Carers Charitable Trust, The Saga Building, Enbrook Park, Folkestone, Kent CT20 3SE.
Gellir cwblhau’r ffurflenni enwebu ar lein hefyd ar y cyfeiriad canlynol www.saga.co.uk/health/carers lle mae rhagor o delerau ac amodau.
DYDDIAD CAU AR GYFER DERBYN FFURFLENNI ENWEBU WEDI EU CWBLHAU YW:
31ain Awst, 2009
