VAMT E-Mail

Iechyd Meddwl


Mae’r prosiect yma’n cefnogi defnyddwyr a gofalwyr y gwasanaeth a’r Sector Wirfoddol. Mae’n cynorthwyo gyda chynllunio a throsglwyddo gwasanaethau iechyd meddwl yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae gan y prosiect ddau swyddog sy’n gweithio ym Merthyr Tudful. Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl yw un sy’n gweithio gyda gofalwyr a sefydliadau’r Sector Wirfoddol, a Swyddog Datblygu Ymglymiad Defnydd Gwasanaeth yw’r swyddog arall.
Yr hyn a wna’r prosiect i Ddefnyddwyr a Gofalwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl?

  • Ymgynghori gyda defnyddwyr a gofalwyr y gwasanaeth ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael mewn amryw ddulliau.
  • Cynnig cefnogaeth a hyfforddiant er mwyn eich helpu i ddatgan eich barn i gynllunwyr ac i gymryd rhan mewn rheoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd – penodi gweithwyr er enghraifft.
  • Cynorthwyo defnyddwyr a gofalwyr y  gwasanaeth  i sefydlu grwpiau a rhwydweithiau i allu cefnogi eich gilydd, lobïo am newid a datblygu gwasanaethau.

Sut mae’r prosiect yn cefnogi sefydliadau’r Sector Wirfoddol? 

  • Mae’r prosiect yn gweithio gydag unrhyw sefydliad o’r Sector Wirfoddol sydd â   diddordeb mewn iechyd meddwl.
  • Yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a hyfforddiant ar faterion megis ymarfer da, materion rheoli, cyllido a datblygu mentrau newydd.
  • Yn hwyluso cyfarfodydd rheolaidd i Fforwm Iechyd Meddwl  Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful a gwneud cysylltiadau gyda rhwydweithiau a fforymau eraill yn y Sector Wirfoddol.
  • Cynorthwyo sefydliadau’r Sector Wirfoddol i rannu gwybodaeth, chwilio am gyfleoedd ar gyfer cydweithio ac ymgyrchu.
  • Cefnogi a chydlynu cynrychiolaeth  ar grwpiau cynllunio ac mewn gwaith partneriaeth eraillag.

 

Gall y prosiect ddarparu hyfforddiant, gwybodaeth a chefnogaeth i asiantaethau eraill sydd mewn partneriaeth (er enghraifft asiantaethau statudol) ynglŷn â gweithio gydag asiantaethau, defnyddwyr a gofalwyr y Sector Wirfoddol.