VITAL
(Cefnogaeth a Chyngor Technoleg Gwybodaeth yn Lleol i’r Sector Wirfoddol)
Menter Gymdeithasol TGC
Mae VITAL wedi datblygu o brosiect ‘Circuit Riders’ GGMT (Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful) a oedd yn trosglwyddo cefnogaeth dechnegol TGCh am ddim i’r drydedd sector. Yn anffodus, fel sy’n digwydd i lawer o swyddi sy’n ddibynol ar gyllid, mae’n edrych yn anhebygol eu bod am dderbyn rhagor o gyllid er parhau â’r gwasanaeth yma, sydd wedi bod yn fater parhaus ers rhai blynyddoedd bellach. Byddai grwpiau a sefydliadau yn colli eu swyddog cefnogol TGCh ac yn gorfod talu un ai drwy’r Sector Breifat, ac mewn rhai achosion ni allent ei fforddio, neu ofyn i ffrind i ffrind helpu gyda’r broblem. Yn y ddwy sefyllfa gall hyn fod yn rhwystredig ar gyfer yr unigolion, ac yn lle bod TGCh yn fantais i’r sefydliad mae’n faich iddynt.
Cytunwyd bod angen gwasanaeth mwy cynaliadwy, ac wedi hynny rhoddwyd cynnig ger bron Bwrdd GGMT i gyllido cynllun peilot Menter Gymdeithasol TGCh am 18 mis, ac yn ffodus fe gytunodd y Bwrdd i wneud hynny. Cychwynnodd y Fenter Gymdeithasol yn Nhachwedd 2008 gan obeithio y bydd yn parhau am amser i ddod, gan gynnig cefnogaeth a chyngor TGCh lleol, a gwasanaethau datblygu gwefan i’r drydedd sector.
Heddiw
Ar hyn o bryd mae VITAL yn darparu cefnogaeth TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) i grwpiau a sefydliadau gwirfoddol ar draws fwrdeistref Merthyr Tudful gan gynnwys hyfforddiant, datblygu gwefan, cefnogaeth dechnegol, a derbyn cyngor a llawer mwy drwy ein Swyddog Datblygu TGCh.
Dechreuodd Derek Emanuel yn ei swydd yma yng Ngorffennaf 2007 ac mae wedi ei leoli yn y Ganolfan Gweithredu Wirfoddol. Mae gan Derek nifer o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant TGCh a bydd yn edrych ymlaen at gael rhannu ei wybodaeth a phrofiad gydag unrhyw grŵp a sefydliad gwirfoddol sydd eisiau cymorth.
Bwriad Gwasanaeth Cefnogi TGCh yw darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw grŵp cymunedol neu wirfoddol sydd un ai yn newydd i’r byd cyfrifiadurol, neu eisiau dysgu mwy a gwella effeithlonrwydd eu grwpiau yn ogystal â sut i weithredu a chyfathrebu. Gallwn helpu grwpiau i edrych ar ffyrdd y gallent ddefnyddio TGCh i ehangu a thyfu.
Os ydych yn grŵp/sefydliad gwirfoddol neu gymunedol ac eisiau rhagor o wybodaeth cysylltwch â Derek Emanuel ar 01685 353914, neu e-bost Derek Emanuel neu ewch ar wefan VITAL www.vital.uk.net.
Cefnogaeth a Chyngor TG cyffredinol
Cynlluniau i’r dyfodol...
Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn syml... i ddarparu gwasanaeth TGCh proffesiynol, dibynadwy a fforddiadwy i’r drydedd sector ar gyfer y dyfodol.
