VAMT E-Mail

Gwobrau Gwirfoddoli 2010

 

GWOBRWYON GWIRFODDOLI GWEITHREDU GWIRFODDOL - FFURFLENNI ENWEBU

 

Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful unwaith eto yn trefnu dathliad blynyddol o wirfoddoli yn

y gymuned. Eleni byddwn ond yn cynnal un digwyddiad, sef Gwobrwyon Cyraeddiadau Gwych,

yn anffodus ni fydd y Seremoni Dystysgrif yn cael ei chynnal, gofynnwn i fudiadau i gysylltu gyda’r Ganolfan Wirfoddoli os hoffent dystysgrifau ar gyfer eu gwirfoddolwyr.

 

Bydd y Gwobrwyon Cyraeddiadau Gwirfoddol Gwych yn cael eu cynnal yng Nghlwb Cymdeithasol Penydarren ar ddydd Iau, 24ain o Fehefin drwy wahoddiad yn unig, gyda

bwffe ac adloniant yn cael eu darparu. Bydd tocynnau yn £5 y pen. 

 

Fe’ch gwahoddir i gynnig enwebiadau ar gyfer y Gwobrwyon Gweithredu Gwirfoddol Gwych

drwy gwblhau'r ffurflen enwebu atotedig. Bydd un wobr yn cael ei chyflwyno ar gyfer pob un o’r 10 categori. Mae gyda ni wobr newydd eleni sef ‘Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg drwy Wirfoddoli’, darllenwch y nodiadau canllaw os gwelwch yn dda am fwy o wybodaeth.

 

Nodwch os gwelwch yn dda mai dydd Gwener, 7fed o Fai 2010 yw’r dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, yna cysylltwch os gwelwch yn dda â Karen Foley ar 01685 353913 neu e-bostiwch karen.foley@vamt.net.

 

Diolch i chi am eich cefnogaeth.

 

Yr eiddoch yn gywir

 

Karen Foley

SWYDDOG GWIRFODDOLI

 

- Cliciwch yma am Gwobrau Gwirfoddoli 2009