Rhaglen Cleifion Arbenigol (EPP)
Beth yw hyn?
Mae’r rhaglen yn fenter Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol Cymru sydd am ddim ac ar gael i bobl dros 18 oed sy’n byw gyda chyflwr iechyd hir dymor neu’n gofalu am unigolyn sydd â chyflwr iechyd hir dymor.
Cynhelir y rhaglen sy’n sesiynau wythnosol dros gyfnod o chwe wythnos mewn lleoliadau cymunedol lleol. Hyd bob sesiwn yw 2 awr a hanner. Bydd grŵp fel arfer yn cynnwys rhwng 8 a 16 o gyfranogwyr.
Beth yw cynnwys y Rhaglen?
Lluniwyd y rhaglen i ddysgu sgiliau gwerthfawr ac i edrych ar ddulliau o wella’r ffordd mae unigolyn yn ymdrin ag effeithiau eu salwch hir dymor. Dros y chwe wythnos bydd y tiwtoriaid yn dangos ffyrdd o ymdrin â straen/ pryder, rheoli poen, hunanddelwedd isel, bwyta’n iach a rheolaidd, dysgu sut i ymlacio, cynllunio ar gyfer y dyfodol ac ehangu sgiliau cyfathrebu. Mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i gyfranogwyr hyfforddi i fod yn diwtor gwirfoddol a’u galluogi i helpu eraill mewn sefyllfa debyg i’w hunain.
Beth a gaiff ei ystyried fel Cyflwr Iechyd Hir Dymor?
Asthma, Broncitis, Cancr, Arthritis, Clefyd Siwgr, Clefyd y Galon, Ecsema, Psorïasis, Parlys yr Ymennydd, Enseffalomyelitis Myalgig (Syndrom Blinder Parhaol), Parlys Ymledol, Problemau Cyhyrau Ysgerbydol, Poen Cefn, Sciatica, Problemau Iechyd Meddwl, Epilepsi, Syndrom Coluddyn Llidus, Clefyd Crohnes, Byddardod, Clefyd Parkinsons, Strôc a llawer mwy.
Sut i gael eich lle ar y cwrs?
Os oes gennych gyflwr iechyd hir dymor neu’n gofalu am rywun sydd â chlefyd yna gallwch gofrestru i fynychu’r cwrs. Nid oes angen i chi gael eich cyfeirio ac mae’r cwrs am ddim.
Amserlen Rhaglenni EPP 2009-2010
I weld y tabl, cliciwch yma.
Os hoffech ymuno â dosbarth neu gael rhagor o wybodaeth gallwch ffonio Caroline Jones-
Cydlynydd/ Hyfforddwr Rhaglen Clefyd Arbenigol drwy yrru ebost neu ei ffonio ar 01685 353911
Gwelwch boster EPP yma.
Geiriau gan gyfranogwyr y cwrs
"Mae’r Rhaglen Cleifion Arbenigol wedi newid fy agwedd yn gyfan gwbl. Roeddwn i’n teimlo’n isel pan ymunais a’r cwrs am y tro cyntaf, doeddwn i methu garddio ac roedd tacluso’r tŷ yn ymdrech fawr, ond erbyn hyn rwy’n teimlo’n hyderus fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth dim ond i mi gynllunio a chymryd fy amser."
Claf ar EPP ym Mlaenau Gwent, Hydref 2006
"Tua dwy flynedd yn ôl doedd gen i ddim hyder o gwbl, ac fe glywais am y Rhaglen Cleifion Arbenigol yng Nghymru, a phenderfynais dderbyn hyfforddiant i fod yn diwtor gwirfoddol. Roeddwn yn teimlo’n fwy galluog o ganlyniad i’r cwrs. Roedd yn gyfle i mi ddeall bod y teimladau a’r rhwystredigaeth a deimlwn o ganlyniad i fy nghlefyd yn gyffredin iawn. Rhoddodd gyfle i mi ddysgu sgiliau newydd ac i reoli fy symptomau, sydd wedi fy helpu i symud ymlaen ac i leihau’r effaith a gaiff fy nghyflwr iechyd hir dymor ar fy mywyd o ddydd i ddydd."
Claf ar EPP yng Nghastell Nedd, Port Talbot
Storïau Digidol EPP yma ....
