VAMT E-Mail

Gweithredu Merthyr yn Gweithio ar Brosiect mewn Partneriaeth â Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Porth Ymgysysylltu

Newyddion diweddaraf yma . . .

Ynglŷn â’r Porth

Mae’r Porth yn un o gynlluniau Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd, y cynllun sy’n olynu Amcan 1.
Amcan y cynllun yw lleihau diweithdra yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl dan anfantais sy’n ei chael hi anoddaf i gael gwaith.

Pa fath o bobl sy’n cael eu hystyried fel rhai ‘sy’n ei chael hi anoddaf i gael gwaith’?

Bydd y Porth yn buddsoddi mewn sefydliadau sy’n targedu pobl sydd efallai wedi colli cysylltiad â’r gwasanaethau sylfaenol, neu mewn peryg mawr o orfod dibynnu ar fudd-daliadau hirdymor. Bydd y carfanau hyn yn cynnwys pobl sy dan anfantais benodol, fel:

  • Menywod sydd eisiau dychwelyd i’r gwaith
  • Pobl ddu, Asiaid a rhai o leiafrifoedd ethnig
  • Pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio
  • Pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl
  • Pobl sy’n hŷn na 50 mlwydd oed

Gallai grwpiau targed eraill gynnwys:

  • Pobl sy’n derbyn budd-dal methu gweithio
  • Rhieni sengl gyda phlant o unrhyw oed
  • Pobl ifainc sy ddim yn gweithio, yn derbyn addysg na hyfforddiant
  • Pobl ddi-waith ledled Cymru

Pa fath o ganlyniadau sydd eu hangen i ennill cytundeb?

Diben y Porth yw rhoi cymorth i bobl weithio tuag at gael gwaith.
Bydd y Porth yn buddsoddi mewn sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau fydd yn meithrin medrau, hyder a dealltwriaeth y grwpiau targed ac sy hefyd yn cysylltu’r cynnydd hwn gyda ‘cham nesaf’ fel cyfeirio pobl at brosiectau eraill, gwirfoddoli, hyfforddiant, cyflogaeth dan gefnogaeth neu gyflogaeth lawn.
Tra caiff canlyniadau’r cytundebau eu diffinio gan Weithredu Gwirfoddol Cymru, gall mudiadau sy’n ceisio am gytundeb ddylunio gweithgareddau fyddai’n gweddu orau i’w grŵp dan sylw.

Pa sefydliadau sy’n gallu ymgeisio am gytundebau’r Porth?

Gall unrhyw sefydliad ymgeisio am gytundebau’r Porth.
Ni chaiff unrhyw sefydliad eu heithrio rhag ennill cytundeb oherwydd eu lleoliad daearyddol. Fodd bynnag, rhaid yw gweithio gyda phobl yn ardaloedd Cydgyfeiriant Cymru, ac mae Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gobeithio cynyddu’r mewnbwn gan fudiadau Cymreig i’r cynllun.

Faint o arian mae’r Porth yn gallu buddsoddi mewn sefydliadau?

Bydd Lefel 1 yn cynnig cytundebau o hyd at £25,000 dros gyfnod o ddim mwy na dwy flynedd. Nid yw Cyllid Cyfatebol yn un o’r gofynion ar y lefel hwn, er nad ydym yn annog rhag gwneud hynny chwaith.
Bydd Lefel 2 yn cynnig cytundebau o £25,000 - £75,000 dros gyfnod o ddim mwy na dwy flynedd. Mae angen elfen o gyllid cyfatebol ar gyfer y lefel yma. (tua 30-40%)
Bydd Lefel 3 yn cynnig cytundebau o £75,000 - £150,000. Mae angen elfen o gyllid cyfatebol ar gyfer y lefel yma. (tua 50%)

Gall cyllid cyfatebol gynnwys cyfraniadau ariannol, cyfraniadau ar ffurf nwyddau neu amser gwirfoddoli.

Oes cefnogaeth ar gael wrth baratoi cais?

Mae cyngor ar gael yn lleol drwy Weithredu Merthyr. Eich Swyddog Cyswllt Porth Ymgysylltu yw Carol Evans
Ffôn: 01685 353 984
e-bost: carol.evans(at)vamt.net

Er mwyn derbyn gwybodaeth ynglŷn â’r cytundebau gwaith mae cyfle ichi ymgeisio amdanyn nhw mae angen ichi fod ar y “rhestr darparwyr cymeradwy.” I wneud hyn mae angen i sefydliadau gwblhau ac anfon holiadur cyn-gymhwyster atom.

Mae’n bosib i sefydliadau fyddai’n hoffi trafod y drefn o ymgeisio am waith gan Y Porth cyn iddynt anfon holiadur gysylltu â desg gymorth Gweithredu Gwirfoddol Cymru drwy ffonio 0800288329 neu e-bostio gateway(at)wcva.org.uk

Lle caiff y cynigion gwaith eu cyhoeddi?

Cysylltir yn uniongyrchol â’r mudiadau sydd ar restr darparwyr cymaradwy Gweithredu Merthyr a’u gwahodd i ymgeisio am gytundebau perthnasol. Bydd cynigion gwaith hefyd yn ymddangos ar www.sell2wales.co.uk a www.wefo.wales.gov.uk

Mae’r Porth Ymgysylltu yn gynllun a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfeydd Strwythurol Ewrop (Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop)Y corff sy’n gyfrifol amdano yw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru , y corff ambarél ar gyfer y sector trydyddol yng Nghymru.
Mae Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gweithio ar Y Porth mewn partneriaeth â Gweithredu Merthyr a’r Ganolfan Gweithredu Gwirfoddol.