VAMT E-Mail

Cyfraniad i GGMT

Cefnogi GGMT

Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, fel llawer o elusennau, yn dibynnu llawer ar gyllid o ffynhonellau allanol a rhoddion ariannol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi GGMT a’r gwaith a wneir o fewn y Sector Wirfoddol ym Merthyr, gweler y modd y gallwch ddangos eich cefnogaeth isod:

Rhoi trwy’r Gyflogres

Beth yw Rhoi trwy’r Gyflogres?

Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn galluogi gweithwyr o unrhyw fusnes i gyfrannu at unrhyw elusen yn y DU yn uniongyrchol o’u cyflog gros (cyn tynnu treth), gan roi rhyddhad treth uniongyrchol ar y cyfraniad hynny. Mae hynny’n golygu bod cyfraniad o £10.00 y mis yn costio £7.80 i’r gweithiwr sy’n talu treth gyfradd safonol (£6.00 ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch) ac mae’n werth cymaint â £20.00 i’r elusen.

Rhoddion ariannol

Rhoddion o Ewyllys unigolyn yw un o’r dulliau mwyaf traddodiadol o gyfrannu at elusennau ac mae’n ddull hynod bwysig i lawer o elusennau, gan gynnwys GGMT.

Rhoddion ariannol unwaith ac am byth

Os hoffech wneud rhodd ariannol unwaith ac am byth i GGMT er mwyn cynnal ein gweithgareddau a chynllunio ar gyfer y dyfodol, gyrrwch eich sieciau neu archeb bost yn daladwy i “Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful” at:

Ian Davy
Prif Swyddog
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
89-90 Stryd Fawr
Merthyr Tudful
CF47 8UH

Siop y ŵe GGMT

eBay i Elusen