FFORWM SEFYDLIADAU GWIRFODDOL PLANT A PHOBL IFANC
Cafodd Fforwm Sefydliadau Gwirfoddol Plant a Phobl Ifanc ei ffurfio yn 2002, ac mae’n rhwydwaith o sefydliadau’r drydedd sector sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae’r Fforwm wedi datblygu ei Ddatganiad ei hun - Plant a Phobl Ifanc Merthyr Tudful – Ein Dyfodol
Mae gan y Fforwm gysylltiadau uniongyrchol i Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn y Fwrdeistref,sydd wedi datblygu A Good Today and a Bright Tomorrow - Cynllun Plant a Phobl Ifanc ym Merthyr Tudful 2008-2011.
Gweledigaeth y bartneriaeth a adlewyrchir yn y cynllun yw
‘Ym Merthyr Tydfil, mae ein plant a’n pobl ifanc yn mwynhau bywy ac yn cyflawni eu llawn botensial’
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Plant a Phobl Ifanc i’w weld yma .... .
AMODAU GORCHWYL
Mae’r Fforwm wedi penderfynu ar amodau gorchwyl sy’n cael eu harchwilio o leiaf bob dwy flynedd. Bydd yr archwiliad nesaf yn 2009.
Mae copi o’r amodau gorchwyl i’w gweld yma....
AELODAETH
Mae amryw o sefydliadau’r Drydedd Sector yn aelodau ar hyn o bryd ac mae’r rhain yn gweithio’n lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae sefydliadau’r Drydedd Sector sy’n cymryd rhan yn y fforwm yn cael eu hannog i fod yn aelodau o GGMT, a gellir cofrestru drwy lawr lwytho a chwblhau ffurflen gais yma.
Mae croeso i bartneriaid statudol i gysylltu â’r Fforwm er budd rhannu gwybodaeth, ymgynghori a rhwydweithio.
DYDDIADAU CYFARFODYDD YN Y DYFODOL
FFORWM |
DYDDIAD |
AMSER |
LLEOLIAD |
HWYLUSWR |
Fforwm Sefydliad Gwirfoddol Plant a Phobl Ifanc (CYPVOF) |
18fed Mawrth 2010 |
10 y.b 12 dydd |
Canolfan Gweithredu Gwirfoddol |
Alison Harris |
|
20 Mai 2010 |
10 y.b tan 12 dydd |
Canolfan Gweithredu Gwirfoddol |
Alison Harris |
|
22fed Gorffennaf 2009 |
10 y.b tan 12 dydd |
Canolfan Gweithredu Gwirfoddol |
Alison Harris |
|
23fed Medi 2009 |
10 y.b tan 12 dydd |
Canolfan Gweithredu Gwirfoddol |
Alison Harris |
|
28fed Tachwedd 2009 |
10 y.b tan 12 dydd |
Canolfan Gweithredu Gwirfoddol |
Alison Harris |
Am gyfarwyddiadau i’r Ganolfan Gweithredu Wirfoddol cliciwch yma ....
AGENDÂU A CHOFNODION
Ers Mai 2008 mae cyfarfodydd wedi eu trefnu gyda themâu yn perthyn iddynt ac sy’n berthnasol i benawdau’r Datganiad er mwyn darparu cyfleoedd i sefydliadau a sectorau i rwydweithio a gweithio mewn partneriaeth.
Yn ogystal â gwneud y cofnodion a’r agendâu i gyfarfodydd yn hygyrch byddent hefyd yn cael eu diweddaru o leiaf wythnos cyn dyddiad y cyfarfod.
Thema Maniffesto |
Cyfarfod Fforwm |
Agenda |
Cofnodion |
|
Ionawr 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
|
Mawrth 200 |
Agenda |
Cofnodion |
|
Mai 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
|
Gorffennaf 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
| Medi 2010 | Agenda |
Cofnodion |
|
|
Tachwedd 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
CADEIRYDD, CEFNOGWR AND CHYNRYCHIOLWYR
Cadeirydd
Bydd Cadeirydd y Fforwm yn cael ei ethol i wasanaethu am ddwy flynedd, fel y nodwyd yn yr amodau gorchwyl.
Cefnogwr
Ynghyd â’r aelodau sydd wedi eu hethol mae yna Gynghorydd sydd â’r cyfrifoldeb o Gefnogi hawliau plant a phobl ifanc o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Cynrychiolwyr
Mae aelodau FSGPPI yn ethol criw o gynrychiolwyr i gynrychioli’r drydedd sector yng ngrŵpiau a fforymau cynllunio o fewn y fwrdeistref gyfan sydd â chysylltiad â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.
I weld amlinelliad o’r swyddogaeth a’r ymrwymiad angenrheidiol dilynwch y ddolen yma....
Os oes gennych y sgiliau sydd ei angen i ymgymryd â swyddogaeth cynrychiolydd, ac os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Partneriaeth ar 01685 353915.
YMGYNGHORIAD CYFREDOL
Am yr holl wybodaeth ymgynghori gan gynnwys ymatebion cyfredol a blaenorol dilynwch y ddolen yma.... .
