FFORWM CLUDIANT CYMUNEDOL MERTHYR TUDFUL
Mae Fforwm Cludiant Cymunedol yn darparu cyfleoedd i sefydliadau sy’n darparu cludiant i’w cleientiaid allu:
- cyfarfod yn rheolaidd
- creu cysylltiadau â’r Awdurdod Lleol, Ymddiriedolaeth Ambiwlans GIG ac eraill.
- cael mynediad at gyllid grant drwy Grant Gwasanaethau Cludiant Lleol
- ymateb gyda’ch gilydd i ymgynghoriadau a materion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n eu heffeithio.
AMODAU GORCHWYL
Mae’r Fforwm wedi penderfynu ar amodau gorchwyl sy’n cael eu harchwilio o leiaf bob dwy flynedd. Bydd yr archwiliad nesaf yn 2009.
Mae copi o’r rhain i’w gweld ar Amodau Gorchwyl
AELODAETH
Mae amryw o sefydliadau’r Drydedd Sector yn aelodau ar hyn o bryd ac mae’r rhain yn gweithio’n lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae sefydliadau’r Drydedd Sector sy’n cymryd rhan yn y fforwm yn cael eu hannog i fod yn aelodau o GGMT, a gellir cofrestru drwy lawr lwytho a chwblhau ffurflen gais yma.
Mae croeso i bartneriaid statudol gysylltu â’r Fforwm er budd rhannu gwybodaeth, ymgynghori a rhwydweithio.
DYDDIADAU CYFARFODYDD YN Y DYFODOL
Dyddiadau cyfarfod fforwm 2009
Am gyfarwyddiadau i’r Ganolfan Gweithredu Wirfoddol cliciwch yma…..
AGENDÂU A CHOFNODION
Fforwm Cludiant Cymunedol |
Agenda |
Cofnodion |
| 18fed Chwefror 2010 | Agenda |
|
22fed Ebrill 2010 |
Agenda |
|
24fed Mehefin 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
9fed Medi 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
4ydd Tachwedd 2010 |
Agenda |
Cofnodion |
Bydd cofnodion ag agenda cyfarfodydd ar gael ac yn cael eu diweddaru wythnos cyn dyddiad y cyfarfod.
CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD
Cadeirydd
Mae Cadeirydd y Fforwm yn cael ei ethol i gynrychioli am gyfnod o ddwy flynedd, fel yr amlinellwyd yn yr amodau gorchwyl.
GWYBODAETH YMGYNGHORI
Am yr holl wybodaeth ymgynghori gan gynnwys ymatebion cyfredol a blaenorol dilynwch y ddolen yma.... .
Os hoffech gyfrannu at ymateb lleol ar unrhyw ymgynghoriad cyfredol, cysylltwch â Alison ar ebost neu ar 01685 353915
GWYBODAETH BERTHNASOL ARALL
Grant Gwasanaethau Cludiant Lleol
2009-10
Final LTSG Guidance 2009-10 (290409)
LTSG 2009-10
