VAMT E-Mail

Cymorth Ymarferol a Llogi Ystafell

VAMT Conference Room VAMT Conference Room
Ystafell Gynhadledd GGMT (Ystafell John Meredith)

Mae gwasanaeth canolog GGMT yn darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer holl aelodau GGMT sy’n cynnwys ffotocopïo, laminadu, rhwymo dogfennau, teipio, dylunio posteri, ffurflenni a thocynnau, a’r cyfan am bris gostyngedig. Mae GGMT yn gyrru post allan yn rheolaidd i aelodau ar ffurf e-bost a Phost Brenhinol, ac yn fodlon cynnwys gwybodaeth gan sefydliadau eraill am dâl bychan.

Os hoffech ragor o wybodaeth ar sut gall y Gwasanaeth Canolog helpu eich sefydliad cysylltwch â Carol Hindley ar 01685 353900.

Mae Gweithredu Gwirfoddoli Merthyr Tudful yn cyhoeddi cylchlythyr pum gwaith y flwyddyn (Chwefror, Ebrill, Mehefin, Hydref a Rhagfyr). Rydym yn croesawu erthyglau gan sefydliadau eraill, felly os oes gennych wybodaeth i’w gynnwys yn inform e-bostiwch neu gyrrwch y wybodaeth at y Golygydd , GGMT, 89-90 Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8UH.

Os hoffech i ni eich ychwanegu ar restr postio’r cylchlythyr, gyrrwch e-bost atom gyda’ch enw, sefydliad a chyfeiriad post.

Mae’n bosib llogi ystafell cynhadledd, yn ddibynnol os yw’r ystafell ar gael, ar y gost ganlynol:

Gall yr ystafell hon ddal oddeutu 80 o bobl mewn dull theatr, 48 mewn dull cabaret, 36 mewn dull cyfarfod, a 28 mewn dull siap-U. Mae llogi ystafell yn cynnwys te, coffi a diodydd ysgafn. Os oes angen bwffe arnoch, gall GGMT archebu un ar eich cyfer fel ei fod yno ar amser sy’n gyfleus i’r cyfarfod.

Mae yna gyfleusterau PowerPoint, uwchdaflunydd, sgrîn, stand siart fflipio, teledu a fideo ar gael wrth logi’r ystafell.

 

 

Hanner Diwrnod

Diwrnod Cyfan

Aelodau GGMT sydd ag incwm blynyddol sy’n llai na £10,000

£8.00

£16.00

Aelodau GGMT sydd ag incwm blynyddol sy’n fwy na £10,000

£15.00

£30.00

Sefydliadau Statudol

£40.00

£80.00