VAMT E-Mail

GRŴP FFOCWS RHEOLI CYFLWR CRONIG (RCC)

Cafodd Grŵp Ffocws RCC ei sefydlu yn Hydref 2008 i hysbysu ynglŷn â gwasanaeth cynllunio ar draws Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae’n îs-grŵp adnabyddus o’r Fforwm Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

AMODAU GORCHWYL

Mae’r Grŵp Ffocws wedi cytuno ar amodau gorchwyl ffurfiol sydd ar gael yma....

 

AELODAETH

Mae amryw o sefydliadau’r Drydedd Sector yn aelodau ar hyn o bryd ac mae’r rhain yn gweithio’n lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae sefydliadau’r Drydedd Sector sy’n cymryd rhan yn y fforwm yn cael eu hannog i fod yn aelodau o GGMT, a gellir cofrestru drwy lawr lwytho a chwblhau ffurflen gais yma.

Mae croeso i bartneriaid statudol gysylltu â’r Fforwm er budd rhannu gwybodaeth, ymgynghori a rhwydweithio.

 

DYDDIADAU CYFARFODYDD YN Y DYFODOL

DYDDIAD

AMSER

LLEOLIAD

21fed Ionawr 2010

2 y.p tan 4 y.p

Canolfan Gweithredu Gwirfoddol

11fed Mawrth 2010

2y.p tan 4.y.p.

13fed Mai 2010

2 y.p tan 4 y.p

2 y.p tan 4 y.p
2 y.p tan 4 y.p

11fed Tachwedd 2010

2 y.p tan 4 y.p

Am gyfarwyddiadau i’r Ganolfan Gweithredu Wirfoddol yma....

CADEIRYDD, CEFNOGWR A CHYNRYCHIOLWYR

Cadeirydd

Mae Cadeirydd y Fforwm yn cael ei ethol i gynrychioli am gyfnod o flwyddyn, fel yr amlinellwyd yn yr amodau gorchwyl.

Nid ydym wedi ethol Cadeirydd eto ar gyfer y Grŵp.

Cefnogwr

Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2008-2011 wedi adnabod Cyflyrau Cronig fel un o’i phrif flaenoriaethau, ac mae Cyfarwyddwr y Strategaeth Iechyd ar y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei adnabod fel y Cefnogwr i’r flaenoriaeth hwn

 

Cynrychiolwyr

Gobaith y fforwm yw hel cynrychiolwyr i gysylltu â grwpiau a fforymau’r fwrdeistref. I weld amlinelliad o’r ymrwymiad sydd ei angen cliciwch yma...

Os oes gennych y sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â swyddogaeth cynrychioli, ac os hoffech ragor o wybodaeth am hyn cysylltwch â’r Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 01685 353932.

 

GWYBODAETH YMGYNGHORI

Am yr holl wybodaeth ymgynghori gan gynnwys ymatebion cyfredol a blaenorol dilynwch y ddolen yma.... .

Os hoffech chi gyfrannu at ymatebion lleol i unrhyw ymgynghoriad cyfredol, cysylltwch â Sharon ar ebost neu ar 01685 353932.

 

GWYBODAETH BERTHNASOL ARALL