VAMT E-Mail

Ynglŷn â GGMT

Mae Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (GGMT) wedi bodoli ers 1997 yn dilyn ailstrwythuro’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS) yng Nghymru. Mae GGMT yn gwmni elusennol gyda chronfa ddata o 450 o sefydliadau’r drydedd sector/ gwirfoddol sy’n gweithredu yn yr ardal.

Ar hyn o bryd mae GGMT yn cyflogi 24 aelod o staff yn y ddwy swyddfa ym Merthyr a Threfechan. Ers 2001, prif swyddfa GGMT yw’r Ganolfan Gweithredu Wirfoddol yn y dref. Caiff y ganolfan yma ei rhannu â sefydliadau gwirfoddol eraill.

Cenhadaeth GGMT yw “Darparu gwasanaeth unigryw o ansawdd, sy’n cefnogi, cynrychioli a chynorthwyo datblygu sefydliadau’r drydedd sector a gwirfoddoli ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful”.

Cytundeb Partneriaeth Isadeiledd (The Infrastructure Partnership Agreement)

Ers 2005 mae GGMT wedi derbyn arian craidd gan Lywodraeth y Cynulliad fel rhan o’r Cytundeb Partneriaeth Isadeiledd rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol. Mae’r cytundeb yma’n darparu cydnabyddiaeth ffurfiol o swyddogaeth y CGS, canolfannau gwirfoddol a CGGC fel y tair rhan o isadeiledd y sector wirfoddol. Adnewyddwyd yr ymrwymiad yma llynedd ar gyfer cyfnod pellach o bum mlynedd hyd at 2013. Yn ogystal â’r arian craidd daw cyfraniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful.

Disgrifiad o’r Gwasanaeth (Service Specifications)

Wedi deillio o’r Cytundeb uchod daw disgrifiadau ar y cyd o’r gwasanaeth a gaiff eu cynnal gan hyfforddiant cynhwysfawr a fframweithiau gwybodaeth i adnabod pwy sy’n gwneud beth er mwyn cwrdd ag anghenion y sector ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Yn y Cynllun Trosglwyddo blynyddol, penderfynodd GGMT ynglŷn â sut i drosglwyddo ein cyfraniad er mwyn cwrdd â nodau’r gwasanaeth ac i osod targedau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Amcanion craidd GGMT yw:

  1. Safonau Gwasanaeth Gwirfoddoli
    • I hyrwyddo gwirfoddoli
    • I ddarparu gwybodaeth am wirfoddoli
    • I gefnogi gwirfoddolwyr
    • I ledaenu ymarfer da
    • I ddathlu gwirfoddoli
       
  2. Safonau gwasanaeth CGS
  • I ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac integredig wedi ei lunio i gyrraedd anghenion ymddiriedolwyr ac arweinwyr y drydedd sector a’u sefydliadau.
  • I ddarparu gwasanaeth integredig a chynhwysfawr ar gynllunio ariannol a chyngor cyllido, ac i gynorthwyo’r sector i sicrhau’r incwm sy’n hanfodol er mwyn cyflawni’r bwriad yma.
  • I ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac integredig sy’n ymdrin â’r holl brif agweddau o gefnogi sefydliadau.
  • I gyfrannu at y Fframwaith Hyfforddi.
  • I gwrdd ag anghenion canfyddadwy trwy ddatblygu prosiectau a mentrau newydd.
  • I gyfrannu at wasanaeth cynhwysfawr ac integredig er mwyn cwrdd ag anghenion y rhai hynny sydd ynghlwm â rhaglenni a gweithgareddau adfywio.
  • I gyfrannu at wasanaeth cynhwysfawr ac integredig sy’n hyrwyddo a chefnogi ymrwymiad dinesydd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
  • I ddarparu partneriaeth gynhwysfawr a gwasanaeth gweithiol ar y cyd.
  • I gyfrannu at wasanaeth cynhwysfawr ac integredig i gynyddu cyfraniad y drydedd sector i drosglwyddiad gwasanaeth cyhoeddus.
  • I gyfrannu at wasanaeth cynhwysfawr ac integredig i gwrdd ag anghenion y rhai hynny sydd â diddordeb mewn datblygu deddfwriaeth a rhoi mewnbwn i brosesau archwilio.
  • I gyrraedd safonau sefydliadol sy’n cydymffurfio ag anghenion cyrff rheoli priodol a statudol ac ymarfer da safonol.

Mae nodweddion cyffredin o’r Isadeiledd yn cynnwys:

  • Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr, sy’n ymdrin â’r holl agweddau o redeg sefydliadau a gwirfoddoli sydd ar gael yn yr ardal yma.
  • Amrediad cynhwysfawr o daflenni gwybodaeth ar gael ar y wefan yma