Prosiect 3-2-3 – Cefnogaeth y Sector Trydyddol i’r Sector Trydyddol
Amcan y Prosiect
Amcan y Prosiect yw cynnig gwasanaeth cefnogi i sefydliadau’r sector trydyddol sydd naill ai yn neu’n dymuno darparu nwyddau neu wasanaethau yn yr economi gymdeithasol leol.
Pwy sy’n gallu derbyn cymorth?
Mae’r prosiect ar gyfer mudiadau sy wedi eu lleoli yn sir Merthyr Tudful, sy’n gweithio yn y sector trydyddol ac yn dymuno dechrau masnachu. Mae hefyd ar gyfer mudiadau sydd eisoes yn gweithredu fel mentrau cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau gwirfoddol, lleol ac elusennol sy’n anelu at fod yn llai dibynnol ar gymorthdaliadau.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae cefnogaeth ar gael i fudiadau er mwyn rhoi cymorth gyda:
- dod yn fwy hunangynhaliol drwy fasnachu nwyddau neu wasanaethau; a
- gwella medrau busnes, strategaethau a hyder.
Caiff hyfforddiant mewn arferion busnes a chymorth un i un eu teilwra i gwrdd â gofynion eich sefydliad. Gall hyn gynnwys:
- datblygu strategaeth farchnata, dyrannu’r farchnad ac ymchwilio i’r farchnad
- paratoi i fasnachu, masnachu elusennol, sefydlu cangen fasnachu
- paratoi i osod gwaith ar gynnig
- cymorth gyda datblygu ariannol
Amcan y prosiect yw rhoi’r medrau a’r adnoddau angenrheidiol i sefydliadau yn yr economi gymdeithasol fasnachu’n fwy
llwyddiannus. Mae’n enghraifft o sefydliad o’r Sector Trydyddol yn rhoi cefnogaeth fusnes i sefydliadau eraill o’r Sector Trydyddol.
I wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael cysylltwch â Pam Lucas o Weithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful drwy ffonio 01685 353993 neu e-bostio pam.lucas@vamt.net.
Prosiect tair blynedd yw’r prosiect 3-2-3 a gaiff ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dyrannu hanner cyllid achosion da y Loteri Genedlaethol ar draws Prydain. Diben y Gronfa yw dod â gwelliannau go iawn i gymunedau a bywydau pobl sydd â’r angen mwyaf am hynny.
